The times they are a-changing’
For us
Gwaetha’r modd, mae ein Llywydd, John Gough, yn rhoi’r gorau i’r swydd honno, gan ildio’r awenau ar unwaith. Y newyddion da yw ei fod yn gwneud hynny am resymau personol cadarnhaol, ac fe ddymunwn bob hwyl iddo wrth iddo gychwyn ar ei rôl newydd. John Gough, has stepped down with immediate effect. The good news is John is stepping down as President for positive personal reasons and we wish him well as he navigates his new role.
Gyda John wrth y llyw, mae’r gangen a’i gweithgareddau wedi ffynnu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ef wedi ein hebrwng drwy’r Cofid a thrwy gyfnod estynedig o weithredu diwydiannol. Mae hefyd wedi hwyluso cytundeb partneriaeth gymdeithasol llwyddiannus â’r rheolwyr.
Fel unigolyn, mae John hefyd wedi cefnogi (ac fe fydd yn dal i gefnogi) aelodau niferus fel gweithiwr achos, gan gynrychioli buddiannau aelodau mewn sawl fforwm, drwy’r Cynllun Cynaliadwyedd, achosion cwynion cyflogaeth, a’r tu hwnt. Mae bob amser wedi bod yn barod i sefyll yn ddi-ofn a di-dderbyn-wyneb wrth wasanaethu’r gangen.
Hoffem gymryd amser i ddiolch i John am ei gyfraniad enfawr i gangen Aberystwyth dros flynyddoedd lawer..
Er y bydd yn gollwng rhai o’r elfennau beunyddiol, fe fydd yn dal ati i wneud cyfraniad hanfodol a gwerthfawr i’r gangen yn y dyfodol.
Ar gyfer staff y brifysgol
Gwnaeth y neges ddiweddar i’r staff oddi wrth yr Is-Ganghellor amlinellu sefyllfa ariannol heriol o hyd yn y Brifysgol, lle bydd ‘newidiadau’ pellach i staffio, strwythurau a buddsoddi yn cael eu cyhoeddi ac yn destun ymgynghori yn y misoedd nesaf.
Fydd hynny ddim yn synnu’r rhan fwyaf o staff, ond bydd llawer ohonom yn teimlo’n ansicr ac yn poeni am:
-
• eu cydweithwyr
-
• rheoli eu llwyth gwaith a chadw cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd drwy gyfnod cyfnewidiol
-
• sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal a theg.
Mae negodwyr UCU yn parhau â’u trafodaethau â’r uwch reolwyr ac ar y cyfan maent yn cydnabod bod y berthynas honno’n dangos awydd – ac ymdrech – i fod yn agored ac i weithio mewn partneriaeth. Ond efallai y bydd y flwyddyn nesaf yn fwy heriol.
Wrth i ni wynebu 2025 fe fydd angen cefnogaeth a chyfraniadau ein haelodau er mwyn sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau iawn, yn gweld y problemau iawn, yn gwneud y tybiaethau iawn, ac yn cymryd y camau iawn.
Os nad oes gan eich adran gynrychiolydd, meddyliwch am wirfoddoli! use your departmental reps as a conduit for doing this. If your department does not have one – consider volunteering!
Marc Welsh
Aberystwyth UCU Vice President