Pleidleisiau UCU

Bydd eich ffurflenni pleidleisio UCU wedi cyrraedd erbyn hyn.

Bydd yr etholiad yn cynnwys sawl swydd o fewn UCU, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cyffredinol, yr Is-lywydd (Addysg Bellach), y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC) a chynrychiolwyr aelodau benywaidd.

 

Mae UCU Aber yn annog aelodau i gymryd rhan yn y bleidlais hon.

  • Mae'r cyfnod pleidleisio yn rhedeg o 25 Ionawr hyd 1 Mawrth
  • Mae manylion, gan gynnwys datganiadau etholiad gan bob ymgeisydd ar gyfer pob swydd, wedi'u cynnwys yn eich pecyn.
  • Mae'r bleidlais yn seiliedig ar ddull y bleidlais sengl drosglwyddadwy - h.y. rydych chi'n rhozzi rhif i faint fynnoch o’r ymgeiswyr (1 i’ch dewis cyntaf ayyb).

Mae pedwar ymgeisydd yn sefyll am swydd Ysgrifennydd Cyffredinol UCU:

 

Vicky Blake

https://vickyblakeucu.uk/manifesto/

Jo Grady

https://grady4gs.com/manifesto-table-of-contents/

Ewan McGaughey

https://ewanmg.uk/

Saira Weiner

https://saira4gs.wordpress.com/manifesto/

 

Bydd hustyngau ar-lein ar gyfer swydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, a fydd yn cynnwys yr holl ymgeiswyr, ar ddydd Iau 1 Chwefror.

https://ucu.wufoo.com/forms/hustings-for-general-secretary-2024/

 

Bydd hustyngau UCU Cymru hefyd ar 17 Chwefror

 

Dau ymgeisydd sy’n sefyll am yr un sedd i gynrychioli Addysg Uwch Cymru ar yr NEC, sef:

 

Phillip Allsopp (Prifysgol Caerdydd)

Estelle Hart (Prifysgol Abertawe)

 

Pleidleisio hapus!