A short statement in reaction to the news today that Aberystwyth University seeks to make £16 million in savings, which includes major cuts to academic staff.

 

Mae’r cyhoeddiad bod mwy na 150 o swyddi yn mynd i gael eu torri ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi peri dicter a thor-calon i UCU Prifysgol Aberystwyth. Daw yn sgil colli mwy na 150 o gydweithwyr yn y deunaw mis diwethaf yn ystod y cylch diweddaraf o aildrefnu.

Ar y staff dysgu ac ymchwil fydd y toriadau hyn yn effeithio yn bennaf. Rydym yn amcangyfrif mai rhyw chwarter i draean o’n staff academaidd fydd wedi colli eu swyddi yn y brifysgol erbyn yr adeg hon yn y flwyddyn nesaf. A hyn yn dod ar ôl tonnau blaenorol o ddiswyddiadau, mae’n ergyd ingol i’n prifysgol, ein myfyrwyr a’n cymuned.

Yn ôl y ffigurau swyddogol, rhwng 2014 a 2025 collodd Prifysgol Aberystwyth fwy na 450 o swyddi (200 o staff cefnogaeth a 250 o staff academaidd). Nid yw hynny’n cynnwys y swyddi a gollwyd y llynedd a’r rhai a gyhoeddwyd heddiw. Mae hyn yn rhan o argyfwng ehangach mewn addysg uwch. Mae prifysgolion Cymru yn wynebu diffygion ariannol sylweddol, yn gwneud toriadau anferth ac yn colli mwyfwy o swyddi – yn ôl y data swyddogol mae 640 yn llai o staff yn ystod 2024/25 yn unig. Bydd y ffigurau eleni yn waeth byth.

Maint a chyflymder y toriadau

Mae maint a chyflymder y toriadau arfaethedig wedi rhoi ysgytwad i’r staff. Y tu ôl i bob un swydd y mae unigolyn a’i deulu, blynyddoedd o brofiad ac arbenigedd a’r ymroddiad sydd yn hanfod i Brifysgol Aberystwyth.

Deallwn y pwysau ariannol sydd ar Brifysgol Aberystwyth. Bob blwyddyn gofynnir i ni wneud mwy â llai o adnoddau. Bydd y sawl sy’n weddill ar ôl y toriadau yn gorfod gweithio’n galetach nag erioed i ddysgu a gwneud gwaith ymchwil, ac i ffurfio a chefnogi bywydau y bobl ifainc a ddaw yma o Gymru a phedwar ban y byd.

Nid yr unigolion fydd yn gorfod gadael yw'r unig rai y bydd hyn yn effeithio arnynt. Bydd baich mwy o lawer ar y staff sy’n aros, sydd eisoes o dan bwysau mawr, a bydd canlyniadau hynny’n cael eu gweld yn glir yn ein gwaith dysgu ac ymchwil, ym mhrofiad y myfyrwyr a lles ein haelodau. Pryderwn y bydd y pwysau hyn yn golygu ei bod hi’n amhosib cadw ein pennau uwchben y dŵr.

Effeithiau ehangach ar y Canolbarth

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith sefydliadau pwysicaf y Canolbarth, yn cyfrannu bron i £200 miliwn at economi’r rhanbarth. Bydd ergyd y diswyddiadau hyn yn cael ei theimlo ymhell y tu hwnt i’r campws; byddant yn effeithio ar y farchnad swyddi ehangach, busnesau lleol a’u cadwyni cyflenwi, gwasanaethau cyhoeddus, grwpiau gwirfoddol a’r gymuned ehangach. Bydd cymunedau ledled y fro yn dlotach oherwydd y toriadau, a fydd yn effeithio ar ysgolion Ceredigion a’r Gymraeg. Bydd ein tref yn crebachu.

Gweithiwn yn ddiwyd i ddeall yr hyn sy’n cael ei gynnig, i ymladd er mwyn diogelu swyddi a gwthio o blaid pob posibiliad arall. Safwn yn erbyn diswyddiadau gorfodol.

Yn y bôn, mae’r cyhoeddiad hwn yn datgelu pa mor ffaeledig yw model y farchnad wrth ddarparu addysg uwch – a gobeithiwn mai dyna yn union y bydd yr Adolygiad ar Addysg Uwch Cymru yn mynd i’r afael ag ef. Ond ni fydd hynny’n lliniaru dim ar y difrod sy’n cael ei wneud yma ar hyn o bryd.

Nid dim ond cylch arall o ddiswyddiadau

This announcement cannot be allowed to pass as ‘just another round of cuts’. Once jobs, expertise and subject areas are hollowed out, they are extraordinarily difficult to rebuild.

Ni ellir gadael i’r cyhoeddiad hwn fynd heibio fel ‘dim ond cylch arall o ddiswyddiadau’. Ar ôl cael gwared ar swyddi, arbenigedd a phynciau, mae’n waith eithriadol o anodd eu hadfer. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i atal mwy o ddifrod a helpu i achub swyddi. Os oes unrhyw oedi fe fydd y canlyniadau yn waeth byth i’n prifysgol, ein cymuned a dyfodol y Canolbarth.

Aberystwyth UCU

 

A short note on the claims:- HESA – the official statistics reporting body for higher education – reports that in 2024/25 there were 511 Full Time Equivalent (FTE) academic staff at Aber Uni. This is a combination of the full and part-time staff which was 690. The FTE is the figure used in budget planning, so that is the figure used in our estimate of the proportion of academic staff at risk.