Staff strikers speak to AU students

Neges oddi wrth gangen Aberystwyth o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU)

 

Galw pob myfyriwr! Dewch draw i gwrdd â ni ar fuarth Canolfan y Celfyddydau y dydd Llun yma rhwng 12.00 a 2.00! Bydd eich darlithwyr a’ch tiwtoriaid sy’n cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol yn cynnal stondin wybodaeth ddydd Llun 13 Chwefror lle y byddwn ni’n gobeithio cwrdd â chi ac ateb eich cwestiynau.

 

Hoffem roi cymaint o wybodaeth â phosib am y gweithredu diwydiannol dros yr wythnosau nesaf a hefyd pam rydym ni’n cymryd y camau hyn. Rydym ni’n awyddus iawn i glywed gennych chi hefyd: beth yw’ch pryderon, sut y gallem gyfathrebu â chi a chadw cyswllt â chi ac, os ydych chi’n cefnogi ein gweithredu, sut y gallwch chithau chwarae rhan i ddangos eich cefnogaeth.

 

 Message from Aberystwyth University College Union (UCU)  

 

Calling all AU students! Come and meet us on the Art Centre concourse this Monday between 12.00 and 2.00! Your lecturers and tutors who are taking part in strike action are holding a lunchtime info stand on Monday 13th Feb to meet you and answer your questions.

 

We’d like to let you know as much as possible about the industrial action over the coming weeks and also why we’re undertaking it. We’d really like to hear from you as well, what your concerns are, how we can communicate and keep in touch with you, and, if you support our action, how you can get involved in demonstrating your support.