Datganiad gan Ben Lake AS

Statement of support for Aber UCU action from Ben Lake MP – 31/01/23

Diolch am y cyfle i gael dweud ychydig eiriau heddiw, ac mae’n wir ddrwg gen i na allaf fod yna gyda chi. Rwyf ar hyn o bryd yn San Steffan ac yn disgwyl pleidleisio ar Bil Seilwaith Banc y Llywodraeth (Government’s Infrastructure Bank Bill) yn hwyrach prynhawn yma.

Rwyf mewn undod llwyr gydag aelodau’r UCU, NEU a PCS sy’n streicio heddiw. Rydym yn gwybod bod yr anghydfodau sydd wedi ysgogi'r gweithredu diwydiannol hwn yn hen hanes. Ymhell cyn yr argyfwng costau byw presennol roedd staff y brifysgol wedi dioddef dirywiad parhaus yn eu cyflogau a'u hamodau gwaith, ac mae degawd o lymder wedi achosi straen tebyg i bob gwasanaeth cyhoeddus.

Rydym yn gwybod bod tâl y rhai sy'n gweithio mewn addysg uwch wedi gostwng 25% yn is na chwyddiant ers 2009, mae pensiynau wedi'u cwtogi, a dros yr un cyfnod mae llwyth gwaith wedi codi. Mae'r un peth yn wir am y rhai sy'n gweithio ym myd addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

Credaf fod gofynion UCU yn ei anghydfod yn rhesymol, realistig, ac yn fforddiadwy – dyma’r lleiaf y mae staff ein prifysgol yn ei haeddu. Dylid a gellid cyflwyno codiadau cyflog parchus, rhoi diwedd ar gyflogaeth ansicr a darparu pensiynau teg.

Mae'r un peth yn wir am y camau a gymerwyd gan aelodau NEU a’r PCS, a gyda hyn mewn golwg mae'n bwysig nodi bod streic heddiw yn cyd-fynd â diwrnod 'diogelu'r hawl i streicio' y TUC. Mae aelodau undebau ar draws y DU yn protestio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau gwrth-streic llym drwy'r senedd.

Mae'r hawl i streicio yn hawl sylfaenol, ac rwy'n gwrthwynebu'n gryf ymgais y Llywodraeth i gwtogi ar hawliau gweithwyr. Mae'n afresymol i'r Llywodraeth siarad am lefelau gwasanaeth sylfaenol pan fydd degawd o lymder wedi tanseilio ein gwasanaethau cyhoeddus yn ofnadwy, gan eu gadael wedi’u rhwygo’n ddarnau. Byddaf yn parhau i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth niweidiol iawn yma a byddaf yn parhau i sefyll dros hawliau ein gweithwyr allweddol.

Rwy'n falch dangos fy nghefnogaeth i bob gweithiwr sy'n gweithredu i amddiffyn eu cyflog a'u hamodau heddiw; i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus a'r sector addysg uwch; a diogelu'r hawl sylfaenol i streicio