Ballot for Industrial Action / Pleidlais dros Weithredu Diwydiannol
Annwyl aelodau
1) Dylech fod wedi cael eich papurau pleidleisio erbyn hyn.
2) Daw’r bleidlais i ben ar 28 Tachwedd.
3) Pleidlais ydyw ar ddechrau gweithredu diwydiannol ar ffurf streiciau, a gweithredu heb gynnwys streicio, ar y materion isod:
a. codi tâl yn unol â’r RPI + 3.5% o leiaf, neu £2,500, p’un bynnag fo’r uchaf, ar bob pwynt cyflog
b. gweithredu ar y cyd i amddiffyn cytundebau cenedlaethol ar delerau ac amodau cyflogaeth
c. cytundeb cenedlaethol i osgoi colli swyddi, cau cyrsiau, a thorri disgyblaethau academaidd ar draws y sector.
4) Os na chawsoch eich papurau, mae modd erbyn hyn wneud cais am gael rhai newydd – drwy’r ddolen hon here
5) Sicrhewch fod manylion eich aelodaeth yn gywir. Os bydd gweithredu diwydiannol, neu os byddwch am ddwyn achos yn erbyn y brifysgol, bydd angen i’ch manylion fod yn gywir er mwyn i’r undeb allu’ch cefnogi chi.
6. If you have already voted please use the link here Bydd hynny hefyd yn golygu na chewch fwy o negeseuon i’ch atgoffa i bleidleisio.
7) Mae croeso i chi rannu negeseuon ‘Rwy wedi pleidleisio, ydych chi?’ ar y cyfryngau cymdeithasol. Tagiwch @ucuaber.bsky.social. Cofiwch beidio â rhannu lluniau o’r papur pleidleisio ei hun (cyn ei lenwi nac wedyn), dim ond yr amlen.
8) Os hoffech weld mwy o weithgarwch ar y campws i hybu’r bleidlais, cysylltwch : Alison Garrod AGarrod@UCU.ORG.UK; Susan Chapman scc@aber.ac.uk; Steph Jones sbj@aber.ac.uk i wirfoddoli ychydig o amser. Mae gennym bosteri a deunydd hybu o bencadlys UCU i’w rhannu.
9) Mae cynrychiolwyr cangen Aber UCU wedi’u gwahodd i gyfarfodydd ar-lein cenedlaethol ar 6, 12 a 18 Tachwedd. Rhannwch eich barn â’ch cynrychiolydd adrannol neu aelod o’r Pwyllgor Gwaith os hoffech inni godi rhywbeth yn y fforymau hyn neu os oes awgrymiadau am beth y dylai’r gangen ofyn i’r aelodau yn ei gylch.
10) Mae pencadlys UCU hefyd yn ffrydio sawl digwyddiad ‘esbonio’r bleidlais’ dros y mis nesaf. Cadwch lygad ar agor am fanylion yn eich ebyst



