1.00-2.30, 12 Hydref 2022 C4 Hugh Owen
Agenda
1. Disgwyliadau ymchwil
Mae'r gangen leol wedi derbyn cynnig drafft gan y Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi, sy'n anelu at osod Disgwyliadau Ymchwil ar gyfer ymchwilwyr ar wahanol raddfeydd ac mewn gwahanol ddisgyblaethau.
Fe'i cyflwynir hefyd yn y cyfarfodydd holi ac ateb gyda'r Uwch Dîm Rheoli y semester hwn.
Carai'r gangen fanteisio'n gynnar ar y cyfle i wahodd aelodau i godi unrhyw faterion sy'n codi o'r cynnig.
Wrth reswm, carem glywed gan staff sy'n ymgymryd ag ymchwil; ond rydym hefyd yn argymell yn gryf bod aelodau sy'n pryderu am yr effeithiau eangach ar adrannau a'r amgylchedd dysgu ac addysgu i ddod a chyfrannu at y drafodaeth.
2. Ymgyrch UCU yn codi
Rydym yn nesáu at bythefnos olaf y bleidlais – dydd Mercher nesaf fydd y cyfle olaf i wneud cais am bapurau pleidleisio newydd. Byddwn yn rhoi diweddariad ar yr ymgyrch.
Byddwn hefyd yn rhoi cynnig ar dâl streic a chronfa galedi streic, i’r aelodau benderfynu arno.
